find your perfect postgrad program
Search our Database of 30,000 Courses
University of Wales Trinity Saint David: Cymraeg (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig)
Institution | University of Wales Trinity Saint David |
---|---|
Department | Teacher Education |
Web | https://www.uwtsd.ac.uk |
admissions@uwtsd.ac.uk | |
Telephone | 0300 500 5054 |
Study type | Taught |
Summary
Yn gefnogwr brwd o nod Llywodraeth Cymru i gael miliwn o bobl yn medru’r Gymraeg erbyn 2050, mae’r llwybr TAR Uwchradd Cymraeg yn eichparatoi at fod yn athrawon Cymraeg arloesol. Gan barchu cymhlethdodau addysgu Cymru fel iaith gyntaf neu ail iaith, byddwn yn rhoi ichiddealltwriaeth o’r cwricwlwm ac o fethodoleg addysgu a dysgu blaengar.
Gan weithio gyda chyd-fyfyrwyr iaith, byddwn yn annog ac arwain diwylliant o ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Fe fydd llawer o gyfleoedd ichi weithio gyda myfyrwyr o’r pynciau eraill a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Cewch eich paratoi i addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith, a chymryd rhan yn ein llwybr Datblygu’r Gymraeg newydd a ddyluniwyd iwella Cymraeg pob myfyriwr - o rai sy’n dysgu i rai sy’n rhugl.
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Level | RQF Level 7 |
---|---|
Entry requirements | Gradd Israddedig Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd. Cymwysterau TGAU Gradd B neu uwch mewn TGAU Saesneg Iaith a TGAU Mathemateg. Hefyd, bydd ar fyfyrwyr sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg angen TGAU Cymraeg (iaith gyntaf) gradd B neu uwch. Mae gweithdai a phrofion cywerthedd ar gael i’r rheiny sydd â Gradd C TGAU Saesneg Iaith, Mathemateg a Chymraeg. Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3 Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch. Profiad Gwaith Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf. Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad. Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn TeacherEd@uwtsd.ac.uk. |
Location | SA1 Waterfront Campus, Swansea UWTSD Kings Road Swansea SA1 8AL |
Fees
Republic of Ireland | 9000 GBP for Year 1 |
---|---|
EU | 13500 GBP for Year 1 |
England | 9000 GBP for Year 1 |
Northern Ireland | 9000 GBP for Year 1 |
Scotland | 9000 GBP for Year 1 |
Wales | 9000 GBP for Year 1 |
Channel Islands | 9000 GBP for Year 1 |
International | 13500 GBP for Year 1 |
Not what you are looking for?
Browse other courses in Welsh studies, Welsh linguistics, Welsh, Teacher education or Welsh (secondary teaching), or search our comprehensive database of postgrad programs.Scholarship Opportunity with Postgrad.com
Are you a PG student at this University or have you applied to study a postgraduate program at a university in Europe? Tell us your plans and qualify for a £500.00 PGS Scholarship.
Click here