find your perfect postgrad program
Search our Database of 30,000 Courses
University of Wales Trinity Saint David: Dylunio a Thechnoleg (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig)
| Institution | University of Wales Trinity Saint David |
|---|---|
| Department | Teacher Education |
| Web | https://www.uwtsd.ac.uk |
| admissions@uwtsd.ac.uk | |
| Telephone | 0300 500 5054 |
| Study type | Taught |
Summary
Paratowch am yrfa ddeinamig a boddhaus gyda’n cwrs TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg. Yn rhan o’n rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), mae’r cwrs hwn yn rhoi i chi’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen i ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr, peirianwyr ac arloeswyr.
Byddwch yn datblygu’r gallu i addysgu agweddau craidd Dylunio a Thechnoleg, gan gynnwys dylunio cynnyrch, defnyddiau gwrthiannol, systemau a rheolaeth, a thechnoleg bwyd. Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu yn y brifysgol â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill y wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau addysgu ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd lleoliadau mewn ystod o ysgolion, gan gynnwys lleoliadau trefol, gwledig a chyfrwng Cymraeg, yn darparu profiad gwerthfawr o’r ystafell ddosbarth. Bydd y lleoliadau hyn yn eich helpu i fireinio’ch strategaethau addysgu, deall sut i addasu gwersi ar gyfer dysgwyr gwahanol, a datblygu hyder wrth gyflwyno gwersi diddorol a chynhwysol.
Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio sgiliau addysgu hanfodol, megis rheoli dosbarth, cynllunio’r cwricwlwm a dulliau asesu effeithiol. Drwy gydol eich lleoliadau ysgol, byddwch yn derbyn cymorth mentora a phroffesiynol, gan ganiatáu i chi ddatblygu dull addysgu sy’n adfyfyriol a seiliedig ar ymchwil.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ysbrydoli eich myfyrwyr i ddangos creadigrwydd a datrys problemau, gan roi iddynt y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer dyfodol wedi’i siapio gan dechnoleg a dylunio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Dylunio a Thechnoleg yn bwnc blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau o hyd at £15,000 ar gael i gefnogi eich hyfforddiant.
Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2024 i 2025 | LLYW.CYMRU
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
| Level | RQF Level 7 |
|---|---|
| Entry requirements | Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd. Cymwysterau TGAU Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth. |
| Location | SA1 Waterfront Campus, Swansea UWTSD Kings Road Swansea SA1 8AL |
Fees
| England | 9535 GBP for Year 1 |
|---|---|
| Northern Ireland | 9535 GBP for Year 1 |
| Scotland | 9535 GBP for Year 1 |
| Wales | 9535 GBP for Year 1 |
| Channel Islands | 9535 GBP for Year 1 |
| Republic of Ireland | 9535 GBP for Year 1 |
| EU | 15525 GBP for Year 1 |
| International | 15525 GBP for Year 1 |
Not what you are looking for?
Browse other courses in Design, Educational technology, Teacher education, Technology, Design (secondary teaching) or Technology (secondary teaching), or search our comprehensive database of postgrad programs.Postgraduate Bursary Opportunity with Postgrad.com
Are you studying as a PG student at the moment or have you recently been accepted on a postgraduate program? Apply now for one of our £2000 PGS bursaries.
Click here